Adnoddau


Archwilio Pam

(ar gyfer dysgwyr 5-7 oed)

     Bread - Story Books & Active Learning Series                       Veil - Story Books & Active Learning Series
                                                
                           
                     
                           
                       Fêl (Islam)                                                                                     Bara (Cristnogaeth)



                                               Menorah - Story Books & Active Learning
                                                               Menora (Iddewiaeth)

           

Am beth mae'r gyfres yn sôn?

Mae Aled a Siân wrth eu bodd yn archwilio'r mannau lle maen nhw'n byw a'r mannau nhw'n mynd i ymweld â nhw. Maen nhw'n mwynhau chwarae 'Dw i'n gweld â'm llygad bach i' er mwyn eu helpu i ddod i adnabod y mannau hyn yn well. Yn y gyfres Archwilio Pam, mae Aled a Siân yn chwilfrydig ac eisiau gwybod pam fod rhai o'r pathau o'u cwmpas yn bwysig i'w ffrindiau Cristnogol, Iddewig a Mwslimaidd.

Mae'r gyfres yn cymryd arwyddocâd cymdeithasol crefydd o ddifrif, ac mae'n seiliedig ar ymchwil helaeth i sut mae plant yn dysgu amdanyn nhw eu hunain, am bobl eraill, ac am y byd maen nhw'n byw ynddo.

Adnodd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yw’r prosiect datblygu cwricwlwm hwn, sydd wedi ei lunio a’i reoli gan Ganolfan y Santes Fair, yn cydweithio â Chanolfan San Silyn,Wrecsam. Mea'r holl adnoddau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac wedi cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2016. Mae'r llyfrau hyn yn cael eu dylanwadu gan ganlyniadau o'r Prosiect Pobl Ifanc ac Amrywiaeth Crefyddol

  • Adnoddau AM DDIM ar gael ar y dudalen we hon.
  • Mae'r fersiynau clawr meddal B5 o'r llyfrau stori ar gael gan Gyngor Llyfrau Cymru.


Mae saith teitl llyfr stori yn y gyfres:

        •    Croes (Cristnogaeth)
        •    Bara (Cristnogaeth)
        •    Fêl (Islam)
        •    Dŵr (Islam)
        •    Menora (Iddewiaeth)
        •    Goleuni (Iddewiaeth)
        •    Symbolau Ffydd (yn dod â’r tair crefydd ynghyd mewn dathliad o gredoau)



Mae pob un o’r llyfrau stori i’w cael mewn pedwar fformat gwahanol, y mae’n bosib eu defnyddio mewn ffordd hyblyg, yn unol â chyd-destunau unigol. Mae pedwar fformat i’r llyfrau stori:

        •    fersiwn testun byr
        •    fersiwn testun hir
        •    fersiwn cwestiynau allweddol
        •    fersiwn lluniau’n unig

Y fersiwn testun byr yw’r unig un sydd ar gael fel copi caled, tra bod y lleill ar gael ar ffurf electronig ochr yn ochr â’r wybodaeth / gweithgareddau ar gyfer athrawon a disgyblion.



Mae’r wybodaeth / gweithgareddau ar gyfer athrawon a disgyblion yn dilyn yr un patrwm ar gyfer pob teitl llyfr stori. Mae'r deunydd hwn yn fwriadol heb fod yn rhagnodol ac mae’n gynhenid hyblyg, gan gydnabod natur y dosbarth Cyfnod Sylfaen heddiw, a hefyd bwysigrwydd ysgogi ac ategu creadigrwydd ac unigoliaeth yr athro neu’r athrawes. Ar gyfer pob tudalen ddwbl yn y llyfrau stori, mae:

        •    tudalen o syniadau ar gyfer gweithgareddau i bob un o’r saith maes dysgu yn y Cyfod Sylfaen;
        •    tudalen(nau) gweithgaredd disgybl i ategu un o’r syniadau hyn ar gyfer gweithgaredd;
        •    cyswllt symbol sy’n mynd â chi at syniadau pellach ar gyfer datblygu cysylltiadau Addysg Grefyddol penodol.

At ei gilydd, ar gyfer pob teitl llyfr stori mae o leiaf 140 o syniadau ar gyfer gweithgareddau a 10  o daflenni gweithgaredd i’r disgyblion.


Mynediad at yr adnoddau

           
Bara stori byr    Bara

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau AllweddolAdegau a Thymhora
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Croes stori byr    Croes

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Dwr stori byr    Dŵr

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Fel stori byr    Fêl

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Goleuni stori byr    Goleuni

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Menora stori byr    Menora

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Symbolau Ffydd stori byr    Symbolau Ffydd

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon