nn

Adnoddau

Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr

(ar gyfer dysgwyr 8-11 oed)

Randalph the Wise sitting in his study



Eisteddodd Randalph Ddoeth yn ei gadair, gan grafu ei ben llwyd henaidd, a meddwl am y cwestiwn mawr iawn.

"Beth sydd wir yn bwysig?" gofynnodd i'r ystafell wag mewn llais dwfn, trwm.









Ewch i'r wefan newydd Randalph Ddoeth! 

https://randalphddoeth.com/

Am beth mae'r gyfres yn sôn?

Mae'r storïau’n adrodd hanes cymeriad o'r enw Randalph Ddoeth, sy'n chwilio am atebion i'r cwestiwn mawr iawn. Mae eisiau gwybod, ‘Beth sydd wir yn bwysig?’  Mae'r cwestiwn hwn yn mynd â Randalph Ddoeth ar siwrnai drwy Gymru. Ar ei deithiau, mae'n dod o hyd i rai lleoedd a phobl arbennig i'w helpu gyda'i ymchwil. Mewn sawl ffordd, dim ond dechrau siwrnai yw hyn, wrth i Randalph Ddoeth herio ei ddarllenwyr i ymwneud â’r cwestiwn mawr eu hunain, ac i gychwyn ar eu teithiau newydd eu hunain.

Mae Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr yn gyfres Addysg Grefyddol newydd, gyffrous, ar gyfer dysgwyr 8-11 oed, a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a gyhoeddwyd gan Bear Lands Publishing yn 2019. Mae'r gyfres wedi ei chreu a'i chynhyrchu gan arbenigwyr Addysg Grefyddol, sydd â blynyddoedd lawer o brofiad yn y rhyngwyneb rhwng ymchwil academaidd ac ymarfer addysgol, wrth ddyfeisio adnoddau Addysg Grefyddol ar gyfer dysgwyr ac athrawon.

Mae'r gyfres yn cymryd pwysigrwydd mannau (cynefin) o ddifrif, ac mae'n seiliedig ar ymchwil helaeth i sut mae plant yn dysgu amdanyn nhw eu hunain, am bobl eraill, ac am y byd maen nhw'n byw ynddo.

Mae'r llyfrau hyn yn cael eu dylanwadu gan y Prosiect ymchwil ar Weddi a Mannau Cysegredig, ac mewn cysylltiad â Phrifysgol Bishop Grosseteste.


Cefnogi Addysg Grefyddol ar gyfer cwricwlwm sy'n newid

Mae’r gyfres hon wedi’i llunio’n ofalus i gefnogi dulliau Addysg Grefyddol sy'n ysgogi cysylltiadau naturiol â disgyblaethau eraill yn y dyniaethau yn ogystal â meysydd dysgu a phrofiadau eraill yn y cwricwlwm ehangach. Wedi'u gwreiddio'n gadarn mewn ysbryd ymholiad parchus parhaus, mae’r adnoddau yn agored ac yn hyblyg, sy'n golygu eu bod yn gallu bod yn berthnasol i Addysg Grefyddol heddiw ac i Addysg Grefyddol o fewn y cwricwlwm newydd i Gymru yn 2022.

Mae'r holl adnoddau yn y gyfres ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i’w llwytho i lawr AM DDIM o’r dudalen hon, a hefyd ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru. Mae'r adnoddau'n cynnwys:

  • chwe llyfr stori, pob un yn archwilio thema “Beth sydd wir yn bwysig?” trwy ymgysylltu â mannau a phobl yng Nghymru;
  • chwe ffilm wedi’u gosod i gerddoriaeth, un ar gyfer pob llyfr stori, yn dod â dysgwyr i gyswllt agosach â man neilltuol ac yn ysgogi myfyrio pellach yngl?n â’r thema “Beth sydd wir yn bwysig?”;
  • chwe thrac sain cerddoriaeth fel y gall dysgwyr ac athrawon greu eu ffilmiau eu hunain am eu mannau lleol eu hunain;
  • canllaw i athrawon, sy'n cefnogi dylunio a chynllunio hyderus a chreadigol ar gyfer Addysg Grefyddol ar lefel ysgol a lefel dosbarth (yn dod yn fuan).

Y bwriad yw y bydd y canllaw i athrawon yn cael eu siapio ymhellach pan gyhoeddir y cwricwlwm newydd i Gymru ar ei ffurf derfynol. Fodd bynnag, bydd yr adnoddau hyn yn fwriadol yn parhau i beidio â bod yn rhagnodol, gan gydnabod rôl bwysig ysgolion a CYSAGau awdurdodau lleol (Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol) wrth siapio Addysg Grefyddol sy'n berthnasol i anghenion lleol. 

           

Mynediad at yr adnoddau

Mae'r holl adnoddau ar gael am ddim ar y dudalen hon (gweler isod) a hefyd ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru (yn dod yn fuan).
Noder: Rydym yn argrymell eich bod yn lawrlwytho'r adnoddau cyn eu defnyddio er mwyn osgoi unrhyw faterion gysylltiad rhyngrwyd.
Mae'r llyfrau stori a'r canllawiau i athrawon yn ffeiliau pdf (ewch i 'View' i gael sioe sleidiau, tudalen sengl/dwy dudalen ac ati); ffeiliau MP4 yw'r ffilmiau (ar wahân i Dod ag Iechyd ac Iachâd a Byw gyda Natur sy'n ffeiliau MOV); ac mae'r ffeiliau cerddoriaeth yn ffeiliau MP3. 


Bringing Health and Healing welsh book coverDod ag Iechyd ac Iachâd
Yn y stori hon, mae Randalph Ddoeth yn canfod cysegrfan sanctaidd yn Nyffryn Tanat yng Nghanolbarth Cymru. Yma, mae'n dysgu bod Dod ag Iechyd ac Iachâd yn rhywbeth sydd wir yn bwysig. Mae ymweliad â Theml Fwdhaidd, a phen clogwyn lle mae Hind? yn ymarfer yoga, yn gwneud i Randalph Ddoeth feddwl hyd yn oed yn ddyfnach am yr hyn y gall Dod ag Iechyd ac Iachâd ei olygu.

Llyfr stori
Ffilm
Traciau sain cerddoriaeth
Canllaw i Athrawon (ar gyfer y gyfres gyfan)
                          


Gofalu am y DyfodolGofalu am y Dyfodol
Yn y stori hon, mae Randalph Ddoeth yn canfod eco-ganolfan yng Nghanolbarth Cymru. Yma, mae'n dysgu bod Gofalu am y Dyfodol yn rhywbeth sydd wir yn bwysig. Mae ymweliadau â chartref Bwdhaidd, ac â mosg, yn gwneud i Randalph Ddoeth feddwl hyd yn oed yn ddyfnach am yr hyn y gall Gofalu am y Dyfodol ei olygu.

Llyfr stori
Ffilm
Trac sain cerddoriaeth
Canllaw i Athrawon (ar gyfer y gyfres gyfan)



Living with Nture welsh storybook coverByw gyda Natur
Yn y stori hon, mae Randalph Ddoeth yn canfod gardd fotaneg ger Afon Menai yng Ngogledd Cymru. Yma, mae'n dysgu bod Byw gyda Natur yn rhywbeth sydd wir yn bwysig. Mae ymweliad â mynwent Gristnogol, ac â gardd randir Sikh, yn gwneud i Randalph Ddoeth feddwl hyd yn oed yn ddyfnach am yr hyn y gall Byw gyda Natur ei olygu.

Llyfr stori
Ffilm
Trac sain cerddoriaeth
Canllaw i Athrawon (ar gyfer y gyfres gyfan)




Making Spiritual Journeys welsh book coverMynd ar Deithiau Ysbrydol
Yn y stori hon, mae Randalph Ddoeth yn canfod ynys agored i’r gwynt oddi ar arfordir Gogledd Cymru. Yma, mae'n dysgu bod Mynd ar Deithiau Ysbrydol yn rhywbeth sydd wir yn bwysig. Mae ymweliad â chartref Mwslimaidd, ac â pharc lle mae Hind? yn siarad â'i ?yr, yn gwneud i Randalph Ddoeth feddwl hyd yn oed yn ddyfnach am yr hyn y gall Mynd ar Deithiau Ysbrydol ei olygu.

Llyfr stori
Ffilm
Trac sain cerddoriaeth
Canllaw i Athrawon (ar gyfer y gyfres gyfan)



Remembering the Past welsh book coverCofio’r Gorffennol

Yn y stori hon, mae Randalph Ddoeth yn canfod amgueddfa werin yn Ne Cymru. Yma, mae'n dysgu bod Cofio'r Gorffennol yn rhywbeth sydd wir yn bwysig. Mae ymweliad ag eglwys, ac â chartref Iddewig, yn gwneud i Randalph Ddoeth feddwl hyd yn oed yn ddyfnach am yr hyn y gallai Cofio'r Gorffennol ei olygu.

Llyfr stori
Ffilm
Trac sain cerddoriaeth
Canllaw i Athrawon (ar gyfer y gyfres gyfan)



Serving Others welsh book coverGwasanaethu Eraill

Yn y stori hon, mae Randalph Ddoeth yn canfod Sikhiaid ar stryd dinas brysur yn Ne Cymru. Yma, mae'n dysgu bod Gwasanaethu Eraill yn rhywbeth sydd wir yn bwysig. Mae ymweliad ag eglwys gadeiriol Anglicanaidd, ac â mosg, yn gwneud i Randalph Ddoeth feddwl hyd yn oed yn ddyfnach am yr hyn y gall Gwasanaethu Eraill ei olygu.

Llyfr stori
Ffilm
Trac sain cerddoriaeth
Canllaw i Athrawon (ar gyfer y gyfres gyfan)


Diolchiadau

Rydym yn ddiolchgar i Tomos ap Sion sydd wedi rhoi caniatâd i ddefnyddio'i gerddoriaeth wreiddiol yn y ffilmiau a'r traciau sain. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r academyddion a'r cynghorwyr proffesiynol sydd wedi cefnogi datblygiad y gyfres hon trwy eu cyngor, eu dealltwriaeth feirniadol, a'u hadolygiadau gan gymheiriaid. 

Awdur: Tania ap Sion
Darlunydd: Phillip Vernon
Ffilm: Tomos ap Sion
Cerddoriaeth: Tomos ap Sion
Cyfieithiad Cymraeg: Nant Roberts