Adnoddau

Mannau Addoli

Cyfres o chwe llyfr stori i blant rhwng 5 a 7 oed yw Mannau Addoli sy’n archwilio mannau arbennig  mewn chwe gwahanol draddodiad crefyddol: Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam, Hindwaeth, Sikhaeth, a Bwdhaeth.

Mae dau deitl yn y gyfres a gyhoeddwyd gan RMEP ar gael yn awr. Mae fersiynau Cymraeg wedi eu cyhoeddi gan RMEP mewn cydweithrediad â Chanolfan y Santes Fair.

Gartref ac yn yr Eglwys

Gartref ac yn yr EglwysMae’r llyfr hwn yn cyflwyno dau o blant sy’n Gristnogion: Tom a’i deulu sy’n mynd i eglwys Anglicanaidd a Megan a’i theulu sy’n mynd i gapel y Bedyddwyr.

Mae’r llyfr yn archwilio’r agweddau allweddol ar addoli yn y ddwy eglwys trwy lygaid y plant.

Pwrpas y llyfrau stori yw ategu cwricwlwm y Cam Sylfaen a’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i Ddysgwyr 3 a 19 oed yng Nghymru.

Bydd y plant yn canolbwyntio ar, ac yn trafod y tebygrwydd rhyngddynt yn ogystal â’r gwahaniaethau, a rhestrir hwy ar gyfer athrawon yn eu llawlyfr ac yn y Llyfr Mawr.

    Gartref ac yn y Synagog

    Gartref ac yn y SynagogMae’r llyfr hwn yn cyflwyno dau o blant Iddewig. Mae teulu Rachel yn mynd i synagog Uniongred a theulu David yn mynychu synagog Ddiwygiedig. Trwy lygaid y plant mae’r llyfr yn archwilio’r prif nodweddion yn eu haddoliad gartref ac yn y ddwy synagog.

    Mae’r llyfr yn archwilio’r agweddau allweddol ar addoli yn y ddwy synagog trwy lygaid y plant.

    Pwrpas y llyfrau stori yw ategu cwricwlwm y Cam Sylfaen a’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i Ddysgwyr 3 a 19 oed yng Nghymru.

    Bydd y plant yn canolbwyntio ar, ac yn trafod y tebygrwydd rhyngddynt yn ogystal â’r gwahaniaethau, a rhestrir hwy ar gyfer athrawon yn eu llawlyfr ac yn y Llyfr Mawr.

      Gartref ac yn y Vihara

      at home and the viharaMae Garterf ac yn y Vihara’n cyflwyno dau o blant, Setia a Geshe, y ddau ohonynt yn Fwdhyddion.Mae’r llyfr yn archwilio nodweddion allweddol eu haddoliad gartref ac yn eu vihara trwy lygaid y plant. 

      Pwrpas y llyfrau yw cefnogi Cam Sylfaen y cwricwlwm a’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i Ddysgwyr 3 a 19 oed yng Nghymru. 

      Gartref ac yn y Mandir

      home and the mandirMae Gartref ac yn y Mandir yn cyflwyno dau blentyn Hindŵaidd: Prem, y mae ei deulu’n addoli yn Nheml Radha Krishna a Chitra, y mae ei theulu’n addoli yn Nheml Swaminarayan.Mae’r llyfr yn archwilio nodweddion allweddol eu haddoliad gartref ac yn eu gwahanol demlau trwy lygaid y plant.

      Lluniwyd y llyfrau storïol i gefnogi Cam Sylfaen y cwricwlwm a’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i Ddysgwyr 3 a 19 oed yng Nghymru.

      Bydd y plant yn canolbwyntio ar, ac yn trafod y tebygrwydd rhyngddynt yn ogystal â’r gwahaniaethau, a rhestrir hwy ar gyfer athrawon yn eu llawlyfr ac yn y Llyfr Mawr.