
Arolwg o Adnoddau
Mae Canolfan y Santes Fair wedi ymrwymo i gynhyrchu adnoddau o safon uchel ar gyfer addysg grefyddol mewn ysgolion ac addysg Gristnogol mewn eglwysi. Mae Canolfan y Santes Fair yn darparu:
- gwasanaethau addoli Cymraeg arlein mewn cysylltiad â’r SPCK ac MAGC
- y Gyfres Mannau Addoli ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen mewn cysylltiad â’r RMEP
- y Gyfres Storiau i'w Cofio ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen mewn cysylltiad â’r RMEP
- y Gyfres Mannau Cristnogol Arbennig ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen
- y Gyfres Crefyddau’r Byd Heddiw ar gyfer disgyblion CA2
- y Gyfres Teddy Horsley ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen
- adnoddau ar gyfer Plant a’r Cymun
- fersiwn Saesneg a fersiwn Cymraeg o gylchgrawn di-dâl ar gyfer pobl broffesiynol sy’n ymwneud ag AG, AGweddau