Adnoddau

Hafan Ffydd

Cefndir

Ysgrifennwyd y gân 'Hafan Ffydd' (y fersiynau Cymraeg a Saesneg) yn arbennig ar gyfer mis Dathlu Addysg Grefyddol y Cyngor Addysg Grefyddol, fis Mawrth 2011. Darparodd yr adnodd hwn gân ddathlu i’w rhannu, gan gysylltu pobl ifanc o bob rhan o Gymru a Lloegr wrth iddyn nhw ddathlu Addysg Grefyddol yn eu cyd-destunau lleol a chenedlaethol.

 

Hafan Ffydd heddiw

Mae i’r gân, fodd bynnag, berthnasedd sy'n mynd ymhell y tu hwnt i fis Dathlu Addysg Grefyddol 2011. Mae Addysg Grefyddol yng Nghymru a Lloegr heddiw yn darparu man lle gall pobl ifanc ymgysylltu â chwestiynau sylfaenol, archwilio credoau, athrawiaethau ac arferion, a mynegi eu hymatebion personol. Mae hyn yn golygu bod Addysg Grefyddol yn ymwneud â chwestiynau a materion a all fod yn bersonol ac yn sensitif. Mae’r cefndir hwn yn darparu’r cyd-destun ar gyfer thema ganolog y gân, ‘Hafan Ffydd’ neu fan lle gall pobl ifanc ddysgu amdanyn nhw’u hunain ac eraill mewn amgylchedd cefnogol a pharchus. Mae'r gân yn gwerthfawrogi'r angen am fannau cyfarfod o'r fath, a’u gwerth, ac yn croesawu'r potensial a'r heriau perthynol a allai ddeillio o'r mannau hyn.

Rhyddhawyd y gân gan Stiwdio Sain, gyda Dafydd Dafis, Eleri Fôn a chôr Ysgol Tryfan, ac mae ar gael i'w phrynu fel iTunes download.


Adnoddau

Gwybodaeth hawlfraint: Mae caniatâd i ysgolion, cymunedau ffydd a grwpiau anfasnachol eraill ddefnyddio'r trac cyfeiliant cerddorol y gellir ei lwytho i lawr, ac i wneud copïau o'r sgôr a'r geiriau ar gyfer eu perfformiadau o'r gân.

                                        

              Backing Track              

              Hafan Ffydd (Welsh score)

              Hafan Ffydd (Welsh words)

              Place of Trust (English score)

              Place of Trust (English words)