Adnoddau

Cyfres Grefyddau'r Byd Heddiw

(ar gyfer dysgwyr 8-11 oed)

world faiths today
"Pwy yw eich ffrindiau? Ydych chi'n gwybod popeth amdanyn nhw?

Stori yw hon am ffrindiau sydd ddim yn gwybod popeth am ei gilydd. Ond maen nhw'n dechrau dysgu am rai pethau mae eu ffrindiau'n eu gwneud, a pham maen nhw'n eu gwneud. Darllenwch eu stori ac efallai y dysgwch chi rywbeth newydd hefyd!"



Am beth mae'r gyfres?

Dyma'r gwahoddiad sydd wrth wraidd Cyfres Crefyddau'r Byd Heddiw, cyfres sy'n ategu Addysg Grefyddol i blant 8- i 11 oed. Cawn wahoddiad i fyd cyffrous sy’n ysgogi meddwl dau blentyn o'r enw Rhys a Sara wrth iddyn nhw archwilio gwahanol grefyddau’r byd ac enwadau Cristnogol gyda'u ffrindiau o'r gwahanol draddodiadau ffydd. Ymhob llyfr stori, mae Rhys a Sara’n archwilio 5 agwedd ar fywyd sy'n dangos sut y gall credoau berthnasu ag ymarfer. Maen nhw'n cael profiad o:

  • fannau addoli;
  • gwyliau;
  • ffynonellau awdurdod;
  • ffyrdd o ofalu am eraill ac am y byd;
  • bwydydd arbennig.

Ar ddiwedd pob llyfr stori, cawn ein gwahodd i ymuno â Rhys a Sara i fyfyrio ar y pethau sy'n arbennig iddyn nhw, a sut mae'r pethau hyn yn effeithio’n ymarferol ar eu bywydau. Beth fydden ni’n dewis ei rannu â’n ffrindiau?

Cefndir i’r gyfres

Comisiynwyd Cyfres Crefyddau’r Byd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru a'i chyhoeddi gyntaf yn 2008/2009 gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru (Prifysgol Bangor). Yn 2019, cyhoeddodd Bear Lands Publishing (Canolfan y Santes Fair) argraffiad ar-lein newydd o'r adnodd poblogaidd a gwerthfawr hwn, sydd ar gael i'w lwytho i lawr AM DDIM yma yn Gymraeg a Saesneg.

Ymchwiliwyd yn helaeth wrth lunio’r holl lyfrau stori, ac maen nhw wedi'u seilio'n rhannol ar gymunedau crefyddol a mannau addoli go iawn yng Nghymru a Lloegr.

Cyrchu'r adnoddau

Mae’r gyfres yn cynnwys saith llyfr stori 32 tudalen, wedi'u darlunio â lliw ar gyfer disgyblion CA2, pob un â Llawlyfr Athrawon ynghlwm. Mae Llawlyfrau Athrawon yn darparu gwybodaeth gefndir fanwl am bob pwnc ynghyd â gweithgareddau gwersi a thaflenni gwaith y gellir eu llungopïo. Mae'r adnoddau ar gael yn Saesneg hefyd.

Noder: Rydym yn argrymell eich bod yn lawrlwytho'r adnoddau cyn eu defnyddio er mwyn osgoi unrhyw faterion gysylltiad rhyngrwyd. Mae'r llyfrau stori a'r canllawiau i athrawon yn ffeiliau pdf (ewch i 'View' i gael sioe sleidiau, tudalen sengl/dwy dudalen ac ati)

Addasiad Cymraeg: Nant Roberts.



Exploring Islam
Archwilio Islam

Llyfr Stori

Llawlyfr Athrawon





Exploring Judaism
Archwilio Iddewiaeth

Llyfr Stori

Llawlyfr Athrawon





Exploring the Orthodox Church
Archwilio'r Eglwys Uniongred

Llyfr Stori

Llawlyfr Athrawon




Exploring the Parish Church
Archwilio Eglwys y Plwyf

Llyfr Stori

Llawlyfr Athrawon




Exploring Hinduism
Archwilio Hindwaeth

Llyfr Stori

Llawlyfr Athrawon




Exploring Buddhism
Archwilio Bwdhaeth

Llyfr Stori

Llawlyfr Athrawon




Exploring Sikhism
Archwilio Sikhiaeth

Llyfr Stori

Llawlyfr Athrawon