Adnoddau


Archwilio Ein Byd

(ar gyfer dysgwyr 3-7 oed)


        Journeys - Popular Themes                   Myself and Others - Popular Themes
                            
                       Teithiau (5-7 oed)                                                    Fi Fy Hun ac Eraill (3-5 oed)



                                                   Times and Seasons - Popular Themes
                                               
                                                           Adegau a Thymhorau (3-5 oed)

Am beth mae'r gyfres yn sôn?

Mae Aled a Siân wrth eu bodd yn gwneud pethau cyffrous ac yn archwilio'r byd o'u cwmpas. Yn y gyfres Archwilio Ein Byd, mae Aled a Siân yn rhannu rhai o'u profiaddau gyda'u ffrindiau, Cristnogol, Hindŵaidd, Iddewig a Mwslimaidd. Mae Aled a Siân hefyd yn mwynhau gwrando ar storïau eu ffrindiau ac yn dysgu sut mae'r rhain yn perthnasu â'u storïau nhw eu hunain. Mae hyn yn helpu'r ffrindiau ddod i adnabod ei gilydd yn well.

Mae'r gyfres yn cymryd arwyddocâd cymdeithasol crefydd o ddifrif, ac mae'n seiliedig ar ymchwil helaeth i sut mae plant yn dysgu amdanyn nhw eu hunain, am bobl eraill, ac am y byd maen nhw'n byw ynddo.

Adnodd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yw’r prosiect datblygu cwricwlwm hwn ar gyfer plant 3-7 oed, sydd wedi ei lunio a’i reoli gan Ganolfan y Santes Fair, yn cydweithio â Chanolfan San Silyn,Wrecsam. Mae'r holl adnoddau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac wedi cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2016. Mae'r llyfrau hyn yn cael eu dylanwadu gan ganlyniadau o'r Prosiect Pobl Ifanc ac Amrywiaeth Crefyddol.

  • Adnoddau AM DDIM ar gael ar y dudalen we hon.
  • Mae'r fersiynau clawr meddal B5 o'r llyfrau stori ar gael gan Gyngor Llyfrau Cymru.

       

Mae chwe llyfr stori yn y gyfres, sydd wedi eu llunio ar gyfer gwahanol grwpiau oedran yn y Cyfnod Sylfaen yn cynnwys:


        •    Teithiau (5-7 oed)
        •    Pobl Arbennig (5-7 oed)
        •    Arwyddion a Symbolau (5- oed)
        •    Dathliadau (3-5 oed)
        •    Fi Fy Hun ac Eraill (3-5 oed)
        •    Adegau a Thymhorau (3-5 oed)

Mae pob llyfr stori’n dechrau trwy archwilio’r thema boblogaidd o safbwynt dau blentyn cyffredin (Aled a Siân), sydd wedyn yn ymwneud â phrofiadau eu ffrindiau Iddewig, Mwslimaidd a Hindŵaidd. 

           

Mae pob un o’r llyfrau stori i’w cael mewn pedwar fformat gwahanol, y mae’n bosib eu defnyddio mewn ffordd hyblyg, yn unol â chyd-destunau unigol. Mae pedwar fformat i’r llyfrau stori:

        •    fersiwn testun byr
        •    fersiwn testun hir
        •    fersiwn cwestiynau allweddol
        •    fersiwn lluniau’n unig

Y fersiwn testun byr yw’r unig un sydd ar gael fel copi caled, tra bod y lleill ar gael ar ffurf electronig ochr yn ochr â’r wybodaeth / gweithgareddau ar gyfer athrawon a disgyblion.

           

Mae’r wybodaeth / gweithgareddau ar gyfer athrawon a disgyblion yn dilyn yr un patrwm ar gyfer pob teitl llyfr stori. Mae'r deunydd hwn yn fwriadol heb fod yn rhagnodol ac mae’n gynhenid hyblyg, gan gydnabod natur y dosbarth Cyfnod Sylfaen heddiw, a hefyd bwysigrwydd ysgogi ac ategu creadigrwydd ac unigoliaeth yr athro neu’r athrawes. Ar gyfer pob tudalen ddwbl yn y llyfrau stori, mae:

        •    tudalen o syniadau ar gyfer gweithgareddau i bob un o’r saith maes dysgu yn y Cyfod Sylfaen;
        •    tudalen(nau) gweithgaredd disgybl i ategu un o’r syniadau hyn ar gyfer gweithgaredd;
        •    cyswllt symbol sy’n mynd â chi at syniadau pellach ar gyfer datblygu cysylltiadau Addysg Grefyddol
             penodol.

At ei gilydd, ar gyfer pob teitl llyfr stori mae o leiaf 140 o syniadau ar gyfer gweithgareddau a 11 o daflenni gweithgaredd i’r disgyblion.
 
           
       

Mynediad at yr adnoddau


Teithiau stori byr    Teithiau

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Pobl arbennig stori byr    Pobl Arbennig

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Arwyddion a Symbolau    Arwyddion a Symbolau

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Dathliadau stori byr    Dathliadau

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Fi fy hun ac eraill stori byr    Fi Fy Hun ac Eraill

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon


Thymhorau Adegau stori byr    Adegau a Thymhorau

    Stori Byr
    Stori Estynedig
    Cwestiynau Allweddol
    Lluniau
    Gweithgareddau ar gyfer dysgwyr ac athrawon