Ymchwil


Prosiect Agweddau Pobl Ifanc tuag at Amrywiaeth Grefyddol


Dan arweiniad Prifysgol Warwick, casglodd llinyn meintiol y Prosiect Agweddau Pobl Ifanc tuag at Amrywiaeth Grefyddol ddata gan dros 2000 o fyfyrwyr a oedd yn byw ym mhob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig (Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru), ac o Lundain fel achos arbennig. Cymerodd cyfanswm o bron 12,000 o fyfyrwyr ran yn yr arolwg.

Cydweithiodd Canolfan y Santes Fair â’r Uned Ymchwil Crefyddau ac Addysg ym Mhrifysgol Warwick ar agwedd Cymru ar Brosiect Agweddau Pobl Ifanc tuag at Amrywiaeth Grefyddol. Yng Nghymru, cymerodd 2,328 o fyfyrwyr blwyddyn naw a blwyddyn deg ran yn adran arolwg meintiol y prosiect; 1,087 o fyfyrwyr o ysgolion â chymeriad crefyddol (ysgolion Catholig ac ysgolion yr Eglwys yng Nghymru) a 1,241 o fyfyrwyr o ysgolion heb gymeriad crefyddol.

Mae'r prosiect wedi'i ymestyn i gynnwys Gweriniaeth Iwerddon mewn astudiaeth ar wahân a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Chanolfan Addysg Grefyddol Iwerddon (ICRE) rhwng 2013 a 2015. Mae’n bosib dod o hyd i ragor o wybodaeth a chrynodebau o gyhoeddiadau'r estyniad hwn ar dudalen Pobl ifanc a Chrefydd yn Iwerddon y wefan hon.


Ynghylch y prosiect

Mae Prosiect Agweddau Pobl Ifanc tuag at Amrywiaeth Grefyddol yn brosiect tair blynedd a arianwyd o fewn y Rhaglen Crefydd a Chymdeithas AHRC/ESRC (2009-2012).

Mae'r prosiect, a luniwyd gan yr Athro Robert Jackson, yn defnyddio dulliau cymysg, ansoddol a meintiol. Arweinir y llinyn meintiol gan yr Athro Leslie Francis, gan weithio gyda thîm o ymchwilwyr yn Uned Ymchwil Crefyddau ac Addysg Warwick (WRERU), yn y Ganolfan Astudiaethau Addysg ym Mhrifysgol Warwick.

Nodau'r prosiect Agweddau Pobl Ifanc tuag at Amrywiaeth Grefyddol yw:
  • ennill gwybodaeth fanylach a dealltwriaeth o agweddau pobl ifanc tuag at amrywiaeth grefyddol;
  • ennill gwybodaeth fanylach a dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ffurfio'r agweddau hyn;
  • llywio dadleuon cyfredol am AG a chydlyniant cymdeithasol a darparu gwybodaeth ddibynadwy sy'n berthnasol i drefnu polisi;
  • cyflenwi data pwysig i lywio trafodaeth academaidd.

Canfyddiadau’r prosiect

Dylanwadodd canfyddiadau'r prosiect hwn ar y cyfresi llyfrau stori Addysg Grefyddol, Archwilio Pam ac Archwilio ein Byd. Mae'r ddwy gyfres ar gael i'w llwytho i lawr am ddim ar y wefan hon.

Ar hyn o bryd, mae 48 o erthyglau a phenodau llyfrau a adolygwyd gan gymheiriaid wedi deillio o'r prosiect. Mae rhestr lawn ar waelod y dudalen hon o'r cyhoeddiadau hyn sydd ar gael i'w llwytho i lawr. Mae llawer o'r astudiaethau'n cynnwys sampl Cymru, ac mae pedair astudiaeth yn benodol yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar Gymru:
           

                                                                                                 

young people's attitude to religious diversity

•    Francis, L.J., ap Sion, T. & Penny, G. (2014). Is belief in God a matter of public concern in contemporary Wales? An empirical enquiry concerning religious diversity among 13- to 15-year-old males. Contemporary Wales, 27, 40-57.

•    Francis, L.J., Penny, G. & ap Sion, T. (2017). Schools with a religious character and community cohesion in Wales. In E. Arweck (Ed.) Attitudes to Religious diversity: Young people’s perspectives. Farnham: Ashgate.

•    Francis, L.J. & Village, A. (2014). Church schools preparing adolescents for living in a religiously diverse society: An empirical enquiry in England and Wales. Religious Education, 109 (3).

•    Francis, L.J., ap Sion, T., McKenna U., & Penny, G. (2017). Does Religious Education as an examination subject work to promote community cohesion? An empirical enquiry among 14- 15-year-old adolescents in England and Wales. British Journal of Religious      Education, 39, 303-316.


Mae canfyddiadau'r prosiect yn archwilio nifer o feysydd sy'n berthnasol i ymchwilwyr, llunwyr polisi ac addysgwyr sy'n gweithio mewn cyd-destunau lle mae gwrando ar agweddau pobl ifanc tuag at amrywiaeth grefyddol yn bwysig. Mae rhai o'r meysydd hyn yn cynnwys:
  • materion a dadleuon perthnasol ar gyfer pob un o bum "cenedl" y DU (Llundain, Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban;
  • hunaniaethau crefyddol ac anghrefyddol;
  • arwyddocâd cymdeithasol a chyhoeddus crefydd;
  • effaith ysgolion sydd â sylfaen grefyddol;
  • effaith addysg grefyddol.

Mae sawl canfyddiad arwyddocaol wedi codi o'r prosiect, fel:
  • mae myfyrwyr sydd â chymhelliant crefyddol eu hunain yn meddu ar agweddau mwy cadarnhaol tuag at amrywiaeth grefyddol;
  • nid oes tystiolaeth bod ysgolion â chymeriad crefyddol yn cynhyrchu myfyrwyr sy'n llai tebygol o dderbyn pobl o gredoau crefyddol eraill;
  • mae addysg grefyddol yn gweithio o ran arwain tuag at agweddau sy'n hyrwyddo cydlyniant cymunedol, yn lleihau gwrthdaro crefyddol ac yn hyrwyddo lles pawb.

           

Perthnasu ymchwil ag ymarfer mewn ysgolion

Mae canfyddiadau Prosiect Ymchwil Agweddau Pobl Ifanc tuag at Amrywiaeth Grefyddol wedi llywio datblygiad dau brosiect llyfrau stori mynediad agored a noddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant Cyfnod Sylfaen:
Mae'r ddwy gyfres wedi'u hysgrifennu a'u cyhoeddi gan Ganolfan y Santes Fair (Bear Lands Publishing) a gellir cael mynediad at y cyfresi ar y safle gwe yma yn ogystal â safle Hwb Llywodraeth Cymru.


               

Cyhoeddiadau ar gael

Lawrlwythwch y rhestr lawn o gyhoeddiadau o'r prosiect hwn (gan gynnwys crynodebau).
Os hoffech ddarllen mwy am unrhyw un o'r cyhoeddiadau hyn, cysylltwch â
 Chanolfan y Santes Fair.