

Croeso
Sefydliad ymchwil Gristnogol, â’i gwreiddiau yng Nghymru yw Canolfan
y Santes Fair, ac mae’n gweithio ym meysydd eang crefydd ac addysg. Yn
unol â'i hethos Anglicanaidd, mae'r Ganolfan yn ymrwymedig i
wasanaethu'r Eglwys a'r Gymdeithas ehangach. Yn cael ei chydnabod fel
aelod o Golegau a Phrifysgolion y Gymundeb Anglicanaidd (CUAC), mae'r
Ganolfan yn cydweithio â Phrifysgol yr
Esgob Grosseteste (Lincoln) a Queen's College (St Johns,
Newfoundland).
Ymchwil
Yn greiddiol i
waith y Ganolfan mae datblygu a hyrwyddo ymchwil a allai lywio ymarfer
yn uniongyrchol mewn cyd-destunau sy'n gysylltiedig ag eglwys,
cysylltiedig ag ysgolion, ac yn gysylltiedig â chymuned. Mae ein prosiectau ymchwil yn ymwneud â’r meysydd canlynol:
- gweddi a mannau cysegredig
- astudiaethau cynulleidfaoedd
- eglwysi ac eglwysi cadeiriol
- astudiaethau ymwelwyr a thwristiaeth
- eglwysi gwledig, diwinyddiaeth wledig a chymunedau gwledig
- profiadau crefyddol ac ysbrydol
- byw gydag amrywiaeth grefyddol
- hynodrwydd ac effeithiolrwydd ysgolion eglwys
- bwlio ac erledigaeth
- lles clerigion ac iechyd seicolegol cysylltiedig â gwaith
- gwytnwch a lles
- teip seicolegol a gwahaniaethau unigol
Trosi ymchwil i ymarfer
Rydym yn trosi ein hymchwil i fod yn ymarferol trwy greu, ategu, a chynnig:- adnoddau cwricwlwm ar gyfer ysgolion cynradd
- adnoddau ar gyfer myfyrwyr Lefel A
- adnoddau ar gyfer eglwysi a rhieni Cristnogol
- seminarau a symposia
- cyflwyniadau cyhoeddus i ymarferwyr
- rhaglenni sy'n datblygu arfer myfyrgar seiliedig ar ymchwil
- ymgynghoriaeth
Rheolaeth
Rheolir Canolfan y Santes Fair gan y cwmni elusennol Canolfan y Santes Fair a San Silyn (Elusen Gofrestredig rhif 1141117) Cysylltiadau
Cyfarwyddwr Gweithredol: Parchg Ddr Tania ap Siôn, MA (Oxon), MA (Bangor), PhD (Warwick)Ebost: smc.taniaapsion@gmail.com
Cyfarwyddwr Anrhydeddus: Parchg Ganon Athro Leslie J. Francis
PhD, DLitt, ScD, DD, FBPsS, FAcSS
Ebost: leslie.francis@warwick.ac.uk
Cymrawd Ymchwil: Mrs Emma L. Eccles
Ebost: emma.eccles@bishopg.ac.uk