Cyrsiau

Rhwydwaith Teip a Ffydd

Mae Canolfan y Santes  Fair yn gyd gysylltydd y Rhwydwaith Teip Seicolegol a’r Ffydd Gristnogol. Yr Athro Leslie J Francis yw’r cynullydd gyda Ms Ruth Pickles, a’r Ysgrifennydd yw Dr Tania ap Siôn.

Sefydlwyd y Rhwydwaith ym 2000 fel fforwm i’r rhai sy’n gwneud defnydd o theori Teip Seicolegol mewn amryfal ffyrdd o fewn yr eglwysi Cristnogol, gan gynnwys y sawl sy’n ymarfer MBTI, pobl academaidd a hyfforddwyr.

       

Mae amcanion y Rhwydwaith yn cynnwys:

  • datblygu a gwella ymarfer proffesiynol
  • trafod a beirniadu theori yn y maes
  • galluogi a hyrwyddo ymchwil perthnasol

Er pan gafodd ei sefydlu, trefnodd y Rhwydwaith gynhadledd flynyddol sy’n cynnwys:

  • gwahoddiad i siaradwyr allweddol
  • gweithdai wedi eu seilio ar waith ymarferol
  • seminarau ar ymchwil a theori

               

Manylion ar gyfer cynhadledd 2023

Dyddiad:    17-18 Hydref 2023
Lleoliad:     Noddfa, Penmaenmawr

       

Mae rhagor o wybodaeth a ffurflen archebu ar gael cyn bo hir.

  • Gwybodaeth
  • Ffurflen archebu

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Barchg Ddr Tania ap Siôn: smc.taniaapsion@gmail.com